Gwynedd Regional HER

Gwynedd Archaeological Trust HER, 2013.

Data copyright © Gwynedd Archaeological Trust HER unless otherwise stated


Gwynedd Archaeological Trust HER logo

Primary contact

Gwynedd Archaeological Trust HER
Craig Beuno
Garth Road
Bangor
Gwynedd
LL57 2RT
Tel: 01248 352535

Send e-mail enquiry

Resource identifiers

  • ADS Collection: 1786

Search this resource

[English]

Nod Cofnod yr Amgylchedd Hanesyddol Gwynedd (a adwaenid cynt fel Cofnod Safleoedd a Henebion) yw darparu gwybodaeth gynhwysfawr am safleodd archaeolegol a hanesyddol, henebion, adeiladau, arteffactau a thirweddau sy’n hysbys yn y sir a adwaenid cynt fel Gwynedd. Mae’n cynnwys dros 21,000 o gofnodion a gasglwyd o amrywiol ffynonellau ers diwedd yr 1970au, ac mae’n ymdrin â phob agwedd ar weithgarwch pobl ar y dirwedd o'r cyfnod cynhanes cynnar hyd yr ugeinfed ganrif. Mae manylion am safleoedd adnabyddus a llai adnabyddus ar gael, yn ogystal â chofnodion a gynhyrchwyd o ganlyniad i brosiectau archaeolegol a gynhaliwyd yn yr ardal.

Cedwir y wybodaeth ar ffurf basdata gyfrifiadurol a gefnogir gan system fapio digidol (GIS). Ategir hyn gan gasgliadau o fapiau a chofnodion ar bapur (gan gynnwys manylion adeiladau rhestredig a henebion cofrestredig), sleidiau, ffotograffau (ffilm a digidol; o’r awyr ac ar y tir), a mapiau hanesyddol. Mae’r CAH hefyd yn cynnig mynediad at lyfrgell gyfeirio helaeth o destunau a chyhoeddiadau perthnasol.

CAH Gwynedd yw'r brif ffynhonnell wybodaeth am bob agwedd ar amgylchedd hanesyddol Gogledd-orllewin Cymru, ac mae’n beirianwaith ar gyfer cofnodi’r broses barhaus o’i ddadansoddi, ei warchod a’i reoli.

Y prif fodd o sicrhau mynediad at CAH Gwynedd arlein yw trwy Archwilio. Archwilio yw’r system mynediad arlein at Gofnodion yr Amgylchedd Hanesyddol Cymru. Fe’i datblygwyd mewn cydweithrediad gyda’r bedair Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gymreig ac mae’n cynnwys gwybodaeth am Gymru gyfan. Am fwy o wybodaeth ewch i www.archwilio.org.uk. Sylwch os gwelwch yn dda, dylid defnyddio unrhyw wybodaeth a geir trwy gyfrwng Archwilio ar gyfer gwybodaeth ac ymchwil yn unig, ac ni ddylid ei ddefnyddio at bwrpas rheoli datblygiad nac fel rhan o brosiect masnachol. Dilyd cyfeirio unrhyw ymholiadau o’r fath yn uniongyrchol i’r CAU.

Daw’r cofnodion sydd yn y CAH o ffynonellau amrywiol, a chânt eu diweddaru'n ddyddiol. Os credwch fod gennych wybodaeth newydd, boed am gofnod sy’n bodoli eisoes, neu am safle neu ddarganfyddiad newydd nad ydym yn gwybod amdano, cysylltwch os gwelwch yn dda.

Delir â’r holl ymholiadau anfasnachol yn rhad ac am ddim, ond gofynnir i bob ymholwr dalu costau adnoddau ( llungopïo, postio ayyb ) ar sail adennill costau. Codir tâl gwasanaeth ar gyrff ac unigolion sydd yn ymgymryd â gwaith ar sail masnachol. Cysylltwch â’r CAH yn uniongyrchol er mwyn sicrhau copi o’n Cynllun Costau.

Ar gyfer pob ymholiad a chais am wybodaeth cysylltwch â CAH Gwynedd os gwelwch yn dda:

Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd
Cofnod yr Amgylchedd Hanesyddol
Craig Beuno
Ffordd y Garth
Bangor
Gwynedd
LL57 2RT

Tel: 01248 352535
Fax: 01248 370925
Email: her@heneb.co.uk


ADS logo
Data Org logo
University of York logo